Christine James & E Wyn James (goln)


Dagrau Tost- Cerddi Aber-fan

Barddas, 240 tt, £11.95, 2016

Galar ac ing beirdd Aber-fan
Cyfweld

Galar ac ing beirdd Aber-fan

Cyfweliad gyda golygyddion 'Dagrau Tost - cerddi Aber-fan'


Sioned Ann Williams

Amser darllen: 12 munud

Cafwyd cyfle i nodi hanner canmlwyddiant trychineb Aber-fan yng Nghanolfan Tŷ’r Gwrhyd, Pontardawe, ar nos Lun, 24 Hydref 2016, yng nghwmni’r Athro Christine James a’r Athro E Wyn James. Bu’r ddau, sy’n Athrawon y Gymraeg ym Mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd ac yn arbenigwyr ar lenyddiaeth y maes glo, yn trafod y gyfrol Dagrau Tost – eu golygiad o gerddi a ganwyd i drychineb Aber-fan – gyda’r adolygydd, Sioned Williams.

SW: Mae’n addas iawn ein bod ni’n cynnal y noson hon i drafod ymateb y beirdd i drychineb Aber-fan yn Nhŷ’r Gwrhyd. Mae Cwm Tawe yn gwm diwydiannol sydd wedi gweld ei siâr o ddigwyddiadau trasig – a thrychineb Glofa Tarenni Gleision gyda’r mwyaf diweddar i daro teuluoedd y cwm. Pontardawe hefyd, wrth gwrs, yw man geni Gwenallt, a ganodd efallai y gerdd enwocaf am drychineb Aber-fan. Wrth ystyried eich cyfrol, Dagrau Tost, mae cefndir y gwaith yn bwysig. Roedd gennych chi’ch dau resymau arbennig dros gydio yn y prosiect mawr hwn. Ga’ i ofyn i chi yn gyntaf, Christine, am hynny?

CJ: Mae’r prosiect yma wedi bod ar y gweill gyda ni ers blynyddoedd. Ond ie, merch o gwm glofaol ydw i, yn enedigol o Gwm Rhondda ac mae gwaith y glo yn fy ngwaed. Roedd fy nhad yn weithiwr yn y diwydiant glo a’m dau dad-cu hefyd yn lowyr. Felly ces i fy magu yn llythrennol yng nghysgod y tipiau a’r diwydiant glo, ac wastad wedi bod yn ymwybodol o’r peryglon sy’n perthyn i’r diwydiant hwnnw.

O safbwynt y drychineb arbennig hon, merch ysgol ddeuddeg oed oeddwn i ar y pryd. Mae cof clir gen i o fod yn yr ysgol y diwrnod hwnnw, o fod yn yr ystafell ddosbarth, y merched yn cadw reiat ac athro yn dod i mewn ac yn ein distewi ni gan ddweud bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd mewn ysgol mewn cwm cyfagos. Dwi ddim yn meddwl fy mod i’n gwybod yn iawn ble’r oedd Aber-fan ar y pryd, cofiwch. Dyna natur y cymoedd – ry’ch chi’n dueddol o fynd lan a lawr eich cwm eich hunan ond nid ar draws y cymoedd. A doeddwn i ddim yn llwyr ymwybodol chwaith yn yr ysgol y bore hwnnw o erchylltra’r hyn oedd wedi digwydd. Ces i fwy o syniad o hynny y noson honno wedi imi fynd adre a gweld y lluniau ar y teledu. Ond mae atgofion Wyn yn llawer iawn mwy personol na’m rhai i.

Mynwent Aberfan - llun Nick Russill

EWJ: Ydyn. Efallai y bydd rhai ohonoch chi wedi fy ngweld ar ambell raglen deledu yn ystod [wythnos 21 Hydref], ac yn gwybod fy mod yn dod o’r pentref nesaf at Aber-fan, pentre o’r enw Troed-y-rhiw, sydd ryw filltir i’r gogledd o Aber-fan i gyfeiriad tre Merthyr Tudful.

Un ar bymtheg oeddwn i ar y pryd ac roeddwn ar fy ffordd i’r ysgol y bore hwnnw. Fel arfer byddwn yn mynd ar y trên. Roeddwn i’n byw y drws nesa ond un i’r orsaf yn Nhroed-y-rhiw ac roedd y trên yn mynd i lawr ochr ddwyreiniol y cwm i orsaf Merthyr Vale, ac felly yn mynd heibio i’r pwll glo, oedd islaw’r rheilffordd ar waelod y cwm. Ac yn wir, un o’m hatgofion cyson i o fynd ar y trên oedd gweld y bwcedi llawn gwastraff yn codi o’r pwll ac yn cyd-redeg yn gyfochrog bron â’r trên, a’r gwastraff hwnnw wedyn yn cael ei gludo lan ochr y mynydd gyferbyn i ychwanegu at y tipiau a oedd fel pyramidau uwchben Aber-fan.

O fynd ar y trên, byddwn wedyn, ar ôl gorsaf Merthyr Vale, yn cyrraedd gorsaf Quakers Yard ac yn cerdded lan tyle serth i gyrraedd Ysgol Ramadeg Mynwent y Crynwyr. Ond y bore hwnnw roeddwn i wedi cysgu’n hwyr, a phan fyddai hynny’n digwydd, roedd modd dala’r bws. Roedd y bws yn mynd i lawr ochr orllewinol y cwm trwy Aber-fan ac, o’r herwydd, roeddwn i wedi mynd trwy Aber-fan, ac yn agos iawn i safle’r ysgol gynradd yno, ychydig cyn naw o’r gloch y bore hwnnw. A phetawn i wedi bod ychydig yn ddiweddarach, byddwn i wedi bod yn dyst i’r sŵn a ddisgrifiodd Gwenallt fel ‘sgrechain jet’, er nid efallai wedi gweld y tip yn disgyn am fod cymaint o niwl y bore hwnnw.

Erbyn i mi gyrraedd f’ysgol, roedd y newyddion wedi cyrraedd bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd yn Aber-fan. Doedd neb yn siŵr am hyd a lled y peth. Roedd prifathrawes yr ysgol gynradd yn Aber-fan, Ann Jennings, yn perthyn i mi trwy briodas, a’i chwaer hi oedd ysgrifenyddes f’ysgol i, ac roedd yn amlwg o’r pryder mawr oedd ar ei hwyneb bod rhywbeth mawr o’i le. Fe’n galwyd ni, fechgyn y pumed a’r chweched dosbarth, i’r neuadd a gofynnwyd i ni fynd lan i helpu.

Rhyw fflachiadau o atgofion sydd gennyf ar ôl hanner can mlynedd. Ac un o’r fflachiadau hynny yw cerdded ar hyd yr heol yn ôl am Aber-fan a lorïau agored yn llawn glowyr o bwll glo Treharris â’u rhawiau yn mynd heibio ar frys, a rhai o’r bechgyn yn neidio ar y lorïau gyda nhw. Erbyn cyrraedd y lle – wel, ry’ch chi wedi gweld y lluniau ar y teledu – roedd hi’n bur amlwg beth oedd y sefyllfa. Gosodwyd ni’r bechgyn nid i gloddio yn yr ysgol ei hun ond mewn cadwyn, yn pasio ar hyd y rhes y bwcedi llawn gwastraff oedd yn cael eu llenwi yn yr adfeilion. Dyna fy nghysylltiad personol i.

SW: Mae eich cysylltiadau personol, felly, yn golygu bod creu’r gyfrol hon yn waith a oedd yn agos at eich calon – ond roedd y prosiect hefyd yn un pwysig i chi yn academaidd.

CJ: Mae gwahanol agweddau o fywyd rhywun yn cyd-blethu mewn ffordd ddiddorol yn aml iawn. Yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn rhannol drwy anogaeth Hywel Teifi Edwards, a oedd yn bennaeth adran ar y pryd, fe ddechreuwyd cwrs ar lenyddiaeth y Cymoedd yn y 1990au, a Hywel a minnau’n rhannu’r gwaith dysgu ar y cwrs am rai blynyddoedd. Fel rhan o’r cwrs hwnnw roeddwn i’n edrych ar gerddi Gwenallt – a’i gerddi diwydiannol, yn fy marn i, yw ei gerddi gorau. Ymhlith y rheini, byddwn yn astudio’r gerdd ‘Y Tipiau’ a hefyd ei gerdd fawr ‘Trychineb Aber-fan’. Roedd rhywbeth yn debyg yn digwydd yn achos Wyn ym Mhrifysgol Caerdydd, a rhyngom ni’n dau, dyma ddechrau chwilota a chasglu a darganfod bod yna gnwd bach o gerddi am Aber-fan – rhyw hanner dwsin i ddechrau. Yn f’achos i ym Mhrifysgol Abertawe, myfyrwyr o’r ardal hon, o Gwm Tawe a’r cyffiniau, oedd gyda ni yn bennaf, ac roedd rhywbeth hyfryd mewn rhannu’r llenyddiaeth leol gyda nhw. Ond o chwilota ymhellach dyma ragor o gerddi am y drychineb yn dod i’r amlwg.

EWJ: Ie, roeddwn innau yn yr un cyfnod yn digwydd dysgu modiwl ar lenyddiaeth y Gymru ddiwydiannol, a Chymoedd y De wrth gwrs yn rhan bwysig o hynny, a Chwm Taf yn eu plith. Ac wrth baratoi ar gyfer y modiwl, roedd mwy a mwy o gerddi am Aber-fan yn dod i’r golwg, a dyma ni’n sylweddoli bod gennym ddeunydd cyfrol, o roi popeth at ei gilydd. Oherwydd ceisio bod yn gynhwysfawr oedd ein nod golygyddol yn y gyfrol hon, nid dewis a dethol. Nid blodeugerdd yw hi o’r pethau gorau a ganwyd yn sgil y drychineb. Yn hytrach, ein polisi golygyddol ni oedd cynnwys popeth roedden ni wedi dod ar ei draws, popeth oedd wedi cael ei gyhoeddi, fel bod y gyfrol yn adlewyrchu ymateb Cymru gyfan i’r hyn a ddigwyddodd.

Rhaid ichi gofio bod colofnau barddol mewn llawer o bapurau newydd, rhai lleol a rhai cenedlaethol, ’nôl yn y 1960au a’r 1970au, ac roedd yr un peth yn wir am y papurau enwadol wythnosol. A beth welwch chi yn y cyfnod cynnar hwn yw llawer o gerddi gan feirdd gwlad, nid y gorau o ran eu crefft a’u safon efallai o’u gosod wrth ochr prifeirdd fel Gwenallt a T Llew Jones, ond eto i gyd yn fynegiant gwerthfawr o ymateb pobl o bob rhan o Gymru i’r drychineb, o’r chwareli yn y Gogledd, i Geredigion wledig, a draw i’r Cymoedd glofaol. Roedd cylchgronau llenyddol yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol ym mhob un o golegau Prifysgol Cymru ar y pryd, a dyma ddod ar draws cerddi am Aber-fan yn y rheini hefyd. Mae un gerdd yn y gyfrol gan Wil Morgan, cyflwynydd ar Radio Cymru ac un a fu’n Olygydd Newyddion Radio Cymru ar un cyfnod. Roedd Wil yn fyfyriwr yn Adran y Gymraeg yn Abertawe ar y pryd ac yn un o’r bechgyn a ddaeth lan i Aber-fan o Brifysgol Abertawe y diwrnod hwnnw i geisio helpu, ac fe ysgrifennodd gerdd yn sgil y profiad hwnnw, a’i chyhoeddi wedyn yn Gwawr, cylchgrawn myfyrwyr Abertawe.

Yn ogystal â Gwenallt, mae yna feirdd eraill o Gwm Tawe yn y gyfrol – rhywbeth i’w ddisgwyl mewn ffordd oherwydd y cefndir diwydiannol. Mae Gwilym Herber yma, ac Abiah Roderick, ymhlith eraill; ac wrth inni ymchwilio i gefndir y beirdd, dyma weld bod yna glystyrau o feirdd mewn ardaloedd penodol: mae cnwd yng nghyffiniau Aberteifi, un arall yng nghyffiniau Dinbych, a chnwd arall wedyn yn ardal y chwareli. Roedd hynny’n ddiddorol – hynny yw, eich bod nid yn unig yn cael ymateb Cymru gyfan ond bod cylchoedd o feirdd yn ymateb.

SW: Mae’r ymateb yma yn amlwg yn adlewyrchu maint ac effaith y drychineb ar lenorion. Rwy’n gwybod eich bod chi wedi bod yn casglu’r gwaith ers degawdau, ond mae’n drawiadol, on’d yw e, eich bod wedi canfod cymaint – 82 o gerddi gan 77 o feirdd unigol. A fyddech chi felly’n dweud bod Aber-fan ymhlith pynciau mwyaf barddoniaeth Gymraeg, a bod y drychineb wedi ysgogi mwy o gerddi na’r un testun arall?

Dagrau Tost - Cerddi Aber-fan

CJ: Mae’n anodd meddwl am bwnc arall sydd wedi ysgogi cymaint o ganu uniongyrchol â thrychineb Aber-fan. Ry’n ni wedi defnyddio’r gair ‘ffenomen’ wrth sôn amdano, ac rwy’n credu bod y canu am Aber-fan yn ffenomen unigryw, y ffaith bod cymaint o ymateb. Mae yna bethau eraill wrth gwrs, pethau mawr yn ein hanes, sydd wedi ysgogi canu ar hyd y canrifoedd – does dim eisiau ond meddwl am rywbeth fel marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf, a ysgogodd gerdd yn fuan iawn wedyn, ac sydd wedi parhau i ysgogi cerddi i lawr hyd heddiw. Ond dwi ddim yn meddwl y gallwn ni ddod o hyd i gynifer o gerddi, a hynny gan gynifer o feirdd, a chynifer o feirdd o fathau gwahanol. Rwy’n teimlo bod rhywbeth arbennig iawn yn digwydd yma.

EWJ: Rwy’n cytuno. Rwy’n rhyw feddwl bod rhychwant daearyddol y beirdd a’u cefndir yn unigryw yn yr achos yma. Byddai’n bosibl casglu cyfrol o gerddi am Dryweryn, er enghraifft, ond byddai natur y beirdd yn wahanol.

SW: Rydych chi wedi sôn bod y safon yn amrywiol yn y gyfrol am fod yma gerddi gan brifeirdd, beirdd amatur a hyd yn oed blant ysgol. Yn amlwg, felly, roedd angen strwythur cadarn iawn ar gyfer y fath nifer a’r fath amrywiaeth o gerddi. Felly a wnewch chi sôn ychydig am y modd yr ydych chi wedi cyflwyno’r cerddi yn y gyfrol?

CJ: Wedi casglu’r cerddi, roedd angen penderfynu sut i’w cyflwyno. Fe allen ni fod wedi eu gosod yn nhrefn yr wyddor, yn ôl enwau’r beirdd, er enghraifft, ond penderfynon ni drefnu’r cerddi yn gronolegol mor bell ag yr oedd hynny’n bosibl. Daeth hynny â phatrymau eitha diddorol i’r amlwg. Ry’n ni wedi rhagflaenu’r 82 o gerddi sy’n sôn yn uniongyrchol am Aber-fan â thair cerdd sy’n edrych ar y cyfnod cyn y drychineb ac wedi galw’r adran honno’n ‘Brolog’. Cerddi yw’r rhain sydd mewn un ystyr yn naïf, yn gerddi diniwed. Yn wir, teitl un ohonyn nhw yw ‘Yn Nheyrnas Diniweidrwydd’. A rhan o’r diniweidrwydd hwnnw yw’r ymateb i’r tipiau cyn y drychineb. Roedd y tipiau’n rhan o’r dirwedd, yn rhan o’r olygfa naturiol.

EWJ: Byddwn i’n mynd ymhellach na hynny, yn fy achos i yn benodol. Os ewch chi i Droed-y-rhiw o gyfeiriad Merthyr, roedd yna dip mawr ar ochr yr heol, nid un pyramidaidd ond un fflat, yr hen weithfeydd wedi hen ddarfod ac roedd tyfiant arno. Ac mae Gwenallt yn un o’r tair cerdd agoriadol, ‘Y Tipiau’, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1959, yn sôn am chwarae cowbois ar y tipiau – ac rwy’n cofio gwneud yr un peth yn union ar y tip hwnnw.

SW: Wedyn rydych chi wedi gosod cerdd fawr Gwenallt, ‘Trychineb Aber-fan’, ar ei phen ei hunan mewn adran ry’ch chi’n ei galw’n ‘Naratif’. Pam hynny?

CJ: Dyma’r gerdd gyntaf yn y gyfrol sy’n ymateb yn uniongyrchol i’r drychineb, ac mae’n gerdd fawr ym mhob ystyr. Dyma’r gerdd hiraf o ran hyd – yn 86 llinell i gyd, a’r rheini’n llinellau hirion – ac mae ynddi ymadroddi mawr a rhethreg fawr hefyd. Ond cerdd yw hi hefyd y mae llawer o ffoldiról barddonol wedi’i stripio allan ohoni. Mae’n ganu cignoeth sy’n mynd drwy wahanol gamau yn ei gwahanol adrannau. Mae’r adran gyntaf yn disgrifio beth ddigwyddodd – yr olygfa, y sŵn, y tawelwch. Ac wedyn yn yr ail ran, y gweithgarwch, y glowyr a phobl o bob math yn cyrraedd o bob cyfeiriad, yn ceisio dod o’r hyd i’r plant. Un peth sy’n digwydd yn y darn hwn yw cyflwyno’r ystadegau: y 116 o blant a’r 28 o oedolion a laddwyd. Wedyn mae Gwenallt yn mynd ymlaen i sôn am y mamau, ac yna’n nes ymlaen yn cyfleu’r dicter, yr ymateb chwyrn bod y fath beth wedi gallu digwydd. Ac yna yn niwedd y gerdd mae yna ddehongli crefyddol. Mae’n cymharu’r gofid, y galar, y boen a’r ing a brofwyd yn Aber-fan â’r hyn a ddioddefodd Crist ar y groes. Mae yna ddiwinyddiaeth dioddefaint yn adran ola’r gerdd. Ac mae cerdd Gwenallt mewn un ystyr yn agor y ffordd i’r holl gerddi a ganwyd wedyn. Mae’r holl themâu sy’n codi yn y cerddi eraill eisoes wedi ymddangos yn y gerdd hon.

EWJ: Ry’n ni’n rhannu gweddill y gyfrol, wedyn, yn ddwy ran, a hynny’n gronolegol. Mae’r ‘Cnwd Cyntaf (1966-73)’ yn agor gyda cherdd drawiadol iawn sy’n hollol wahanol i un hir, fyfyrgar Gwenallt, sef un gan T Llew Jones. Fe’i sgrifennwyd o fewn tridiau i’r drychineb ac yntau wrth gwrs yn athro ysgol gynradd ei hun. Mae’n adrodd stori Hamelin yn syml ac yn hamddenol, ac yna cawn yr ergyd ar y diwedd mewn un llinell ysgytwol: ‘Yn Hamelin erstalwm, / Heddiw yn Aber-fan.’

SW: Yr hyn sy’n eich taro chi yn yr adran hon yw bod yna elfennau yn y cerddi sy’n llai cyffredin yn yr adran nesa, sef y cerddi o 1974 ymlaen. Un elfen o’r fath yw’r gyfeiriadaeth a’r themâu crefyddol yn y canu. Ydi’r cerddi yma yn adlewyrchu’r diwylliant ehangach y maen nhw’n rhan ohono?

CJ: Yn sicr. Mae cerddi’r ‘Cnwd Cyntaf’ yn gerddi eu cyfnod a’r gyfeiriadaeth grefyddol yn amlwg iawn. Roedd iaith ac ieithwedd hanesion y Beibl a’r capel yn rhan o fara menyn barddoniaeth yn y cyfnod hwnnw, pan oedd byd y capel a’r ysgol Sul yn rhan o fywyd cymaint mwy o Gymry nag ydyw heddiw. A beth sy’n wir hefyd am gerddi’r cyfnod cyntaf, yw bod cyfran dda ohonynt ar fydr ac odl, yn debyg yn yr ystyr yna i benillion emynau. Mae cerddi vers libre a cherddi yn y mesurau caeth yno hefyd, ond mae dylanwad y capel yn brigo i’r wyneb yn llawer o’r cerddi cyntaf yma.

EWJ: Ac mae’r gyfrol yn adlewyrchu hefyd y newid sydd wedi bod ym myd barddoniaeth Gymraeg yn gyffredinol. Mae’r adran gyntaf yn cynnwys y cerddi a ganwyd rhwng 1966 ac 1973, ac maen nhw’n rhai a ysgrifennwyd gan bobl a oedd yn ymateb yn uniongyrchol i’r digwyddiad ac yn cofio’r drychineb. Ond mae ‘Adlodd’, yr ail adran, sef cerddi sy’n ymestyn o 1974 tan yr wythnosau diwethaf yma – yn llythrennol, felly, gan i ni gael y fraint o gynnwys darn o libretto Mererid Hopwood a gafodd ei ddefnyddio yn Cantata Memoria (Karl Jenkins) a ddarlledwyd yn ystod wythnos y cofio – yn arddangos y ‘proffesiynoli’ sydd wedi bod ar y byd barddol. Mae’r beirdd gwlad lleol wedi diflannu i raddau helaeth, ac mae gennych chi fwy o brifeirdd, a mwy o ganu caeth ac englyna yn sgil y Talwrn ac yn y blaen, a mwy o feirdd sydd wedi cael addysg brifysgol. Mae’n ddrych o’r newid sydd wedi bod yng Nghymru yn gymdeithasol ac yn farddonol, yn ogystal ag o’r newid yn y ffordd y mae’r beirdd yn cofio ac yn ymateb i’r drychineb ei hun. Mae newid cywair amlwg yn y gerdd sy’n agor yr adran ‘Adlodd’ (sef cerdd Aled Islwyn, ‘Aber-fan a Chatraeth’), sy’n holi pam yr ydym yn mynd ati i lunio cerddi am Aber-fan; ac ar y cyfan, yn ail adran y gyfrol, mae mwy o bellter rhwng y beirdd a’r drychineb. Er bod llawer o’r un themâu ac emosiynau yn codi yn yr ail hanner, at ei gilydd, mae’r beirdd yn fwy myfyrgar ac yn fwy beirniadol o ran eu hymateb.

SW: Mae natur gynhwysol y gyfrol a’r ehangder cronolegol yn gyfrifol am nodwedd drawiadol arall, sef bod yma nifer uwch o gerddi gan ferched nag sy’n arferol mewn casgliad o farddoniaeth – yn 15% o’r beirdd sydd wedi eu cynnwys. Ry’ch chi’n tynnu sylw yn eich rhagymadrodd bod hyn yn cymharu ag un ferch o’r 145 o feirdd hysbys sydd yn yr Oxford Book of Welsh Verse (1962), sy’n llai nag 1%, a’r chwech yn unig o blith y 168 o feirdd sydd yn Blodeugerdd o Farddoniaeth Gymraeg yr Ugeinfed Ganrif a olygwyd gan Alan Llwyd a Gwynn ap Gwilym yn 1987, sef llai na 4%. Ydi natur ddomestig a theuluol y drasiedi benodol hon i’w chyfrif yn rhannol am hyn?

CJ: Ydi, yn sicr. Mae’r fam yn un o brif symbolau y cerddi hyn, ynghyd â’r cartrefi a’r aelwydydd a gafodd eu taro mewn modd mor greulon. Ac mae natur ddemocrataidd, gynhwysfawr y gyfrol hefyd wedi caniatáu bod llais y ferch i’w glywed mewn modd nad yw’n wir am gyfrolau eraill yn y gorffennol. Ac roedd yn dda medru rhoi sylw nid yn unig i waith ffigyrau fel Mererid Hopwood a Gwyneth Glyn ond hefyd i rai llai hysbys fel Margaret Bowen Rees, Lisi Jones (Llandwrog Uchaf) a Margaret Thomas (Ffaldybrenin).

SW: Mae’n hanner can mlynedd ers y drychineb. Ydych chi’n meddwl y byddwn ni’n dal i weld cerddi yn cael eu canu i Aber-fan i’r dyfodol?

CJ: Mae’r themâu wrth gwrs yn oesol, er bod y digwyddiad yn un penodol. Rwy’n meddwl y byddwn, er y bydd y modd ry’n ni’n cofio yn newid dros amser – fel ry’n ni wedi gweld gyda’r cofio am y Rhyfel Byd Cyntaf, er enghraifft, gan nad oes neb sydd nawr yn fyw sy’n cofio byw drwy’r rhyfel hwnnw. Mae’r cerddi ry’n ni wedi eu casglu eisoes yn dangos y newid sy’n digwydd ac sydd wedi digwydd. Ond bydd trychineb Aber-fan yn aros, rwy’n sicr, yn un o bynciau mawr ein llên a’n cof cenedlaethol. 


Llun: Mynwent Aber-fan, gyda chaniatâd caredig Nick Russill


Mae [‘Trychineb Aber-fan’ Gwenallt] yn gerdd fawr ym mhob ystyr [...] mae llawer o ffoldiról barddonol wedi’i stripio allan ohoni. Mae’n ganu cignoeth.