Cardiff University | Prifysgol Caerdydd ORCA
Online Research @ Cardiff 
WelshClear Cookie - decide language by browser settings

Effaith Defnyddio Cofion Cyfieithu ar y Broses Cyfieithu: Ymdrech a Chynhyrchiant Cyfieithwyr Proffesiynol Cymraeg

Screen, Benjamin 2017. Effaith Defnyddio Cofion Cyfieithu ar y Broses Cyfieithu: Ymdrech a Chynhyrchiant Cyfieithwyr Proffesiynol Cymraeg. Gwerddon 23 (1) , pp. 10-35.

[thumbnail of Gwerddon 23 Ben Screen.pdf]
Preview
PDF - Published Version
Download (2MB) | Preview

Abstract

Mae cyfieithu i’r Gymraeg wedi tyfu bellach yn ddiwydiant pwysig, ac mae’r berthynas rhwng cyfieithu proffesiynol a chynllunio ieithyddol ehangach wedi cael sylw academaidd yn ddiweddar ochr yn ochr â hyn (cf. Gonzalez 2005, O’Connall a Walsh 2006, Kaufmann 2010, 2012, Nunez 2013). Mae cyfieithwyr yn hwyluso ac yn cynorthwyo ymdrechion i amddiffyn hawliau iaith siaradwyr lleiafrifol ac yn cyfrannu at y gwaith ehangach o adfer yr ieithoedd hyn, trwy ddarparu cyfieithiadau o destunau amrywiol ac wrth alluogi siaradwyr ieithoedd lleiafrifol i siarad eu hiaith. O ganlyniad i bwysigrwydd cyfieithwyr i lwyddiant polisïau iaith a’u lle canolog yn y broses o amddiffyn hyfywedd y gymuned Gymraeg, mae’r dulliau y mae cyfieithwyr y Gymraeg yn cyfieithu drwyddynt hefyd yn ystyriaeth berthnasol i gynllunwyr iaith. A all technolegau cyfieithu penodol gyflymu cyfieithu, gan leihau’r ymdrech sydd ynghlwm wrth greu cyfieithiad a chan gynyddu cynhyrchiant cyfieithwyr proffesiynol? Mae hyn yn ystyriaeth berthnasol yng nghyd-destun datblygiadau polisi diweddar, gyda safonau cyntaf Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wrthi’n cael eu gweithredu. Bydd yr erthygl hon yn mynd i’r afael â’r effaith y mae golygu allbwn Cofion Cyfieithu ar ffurf Cyfatebiaethau Rhannol yn ei gael ar y broses o ffurfio cyfieithiad, ar y cyd ag ystyried yr effaith ar brosesau cynhyrchu testun, gan gynnwys ystyried hefyd nifer y geiriau a gynhyrchir. Gwneir hynny o fewn fframwaith cymharol, lle y defnyddir cyfieithu heb gymorth allbwn o’r cof cyfieithu yn waelodlin.

Item Type: Article
Date Type: Publication
Status: Published
Schools: Welsh
Subjects: P Language and Literature > PB Modern European Languages > PB1001 Celtic languages and literature
Publisher: Acedemaidd Cymraeg
ISSN: 1741-4261
Date of First Compliant Deposit: 31 March 2017
Date of Acceptance: 1 September 2016
Last Modified: 02 May 2023 13:47
URI: https://orca.cardiff.ac.uk/id/eprint/94743

Actions (repository staff only)

Edit Item Edit Item

Downloads

Downloads per month over past year

View more statistics